Dangosfwrdd Pensiynau HelpwrArian
Gweler eich pensiynau mewn un lle gyda’n wasanaeth am ddim, diogel a gefnogir gan y llywodraeth. Hefyd, gweler faint gallwch chi ei gael pan fyddwch chi’n ymddeol.

Sut mae'n gweithio
Mae’n cymryd tua 10 munud i fewngofnodi gyda GOV.UK One Login, neu 25 munud os mai dyma’ch tro cyntaf.
Profwch eich hunaniaeth gan ddefnyddio GOV.UK One Login. Gallwch sefydlu cyfrif gydag One Login fel rhan o'r gwasanaeth hwn.
Rhowch eich rhif Yswiriant Gwladol, os oes gennych un. Gallwch ddal i barhau heb un.
Gweld yr holl bensiynau sy'n cyfateb i'ch manylion, gan gynnwys eich incwm amcangyfrifedig pan fyddwch yn ymddeol.
Byddwch angen
eich cyfeiriad presennol
eich rhif Yswiriant Gwladol, os oes gennych un.
Fel arfer mae'n haws profi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login os oes gennych:
ffôn symudol gyda chamera sy'n gweithio
ID gyda llun
Ond gallwch brofi eich hunaniaeth mewn ffyrdd eraill. Gweler rhestr lawn o ffyrdd o brofi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login (opens in a new window) .
Eich data
Byddwn yn rhannu'r wybodaeth rydych chi neu GOV.UK One Login yn ei rhoi i ni gyda darparwyr pensiwn, cynlluniau, a'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i ddod o hyd i'ch pensiynau.
